1
Dyma Mami a Dadi alarch. Maent yn edrych am le i adeiladu nyth. Pam maent eisiau adeiladu nyth
2

























Mae Mami alarch yn mynd i ddodwy wyau. Mae`r elyrch eisiau gwneud cartref diogel i`r wyau.






























Alarch
Mae elyrch yn byw ar lynnoedd ac afonydd. Adar mawr yw'r elyrch a gallant bwyso 13 kilogram. Plu gwyn sydd gan elyrch. Gyddfau hir ystwyth sydd ganddynt â mwy o esgyrn na gwddf jiraff!






























Nyth
Pan mae mami alarch yn 3 blwydd oed gall ddodwy wyau. Mae mami a dadi alarch yn dewis lle diogel ger afon neu lyn er mwyn gwneud nyth. Nid yw elyrch yn adeiladu nythod mewn coed, fel adar eraill, oherwydd maent mor drwm! Maent yn defnyddio glaswellt a phlanhigion dwr, fel cyrs i adeiladu'r nyth.