Un diwrnod braf roedd chwyn dwr yn arnofio ar y llyn. Yn sydyn roedd sblish a sblash ac roedd wedi mynd. Pwy fwytodd y chwyn dwr


1



2
Cliciwch ar y marc cwestiwn i ddod o hyd i'r ateb.

Cleren caddis ydoedd. Maent yn adeiladu eu cartrefi allan o frigau a cherrig.

caddis fly nymph

 

Math o bryfed dwr yw cler caddis. Mae'r nymffs ifanc yn adeiladu cartrefi allan o gerrig man, brigau, dail a thywod. Mae hyn yn rhoi cuddliw iddynt yn erbyn eu cefndir. Ar ôl ychydig fisoedd maent yn mynd tu fewn ac yn cynrhoni, fel lindysyn. Mae'r oedolyn yn dod allan fel pryfyn sy'n gallu hedfan.